We’re pleased to welcome the Automobile Club of North Wales to this year’s ‘Extreme Steam Extravaganza’ Summer Gala at Porthmadog Harbour Station.

Between 10:00 and 16:00 on all three days of the Gala (Friday, 19th – Sunday, 21st of June 2026), a selection of 38 classic and vintage vehicles will be on display at various times across the event outside the station car park.

The display will feature an eclectic mix of vehicles spanning more than 60 years of motoring history, from elegant pre-war Rolls-Royce and Wolseley models through to post-war family cars, sporting classics and modern favourites. Highlights include a 1951 Citroën Traction, a Triumph Stag, Ford performance icons such as the Escort XR3i and Mexico Mk1, an MG BGT, a Daimler XJ6, and even a preserved Bedford OB bus. Together they represent a fascinating snapshot of automotive heritage from Britain and beyond!

The display will be accessible not only to event ticket holders but also to local residents, holidaymakers and anyone passing through who would like to take a closer look at these fascinating vehicles! Whether you’re a railway enthusiast, a classic car fan or simply looking for something interesting to see, all are welcome!

Once you’ve taken a look, feel free to head through to the platform where you can admire the variety of trains taking part in the gala whilst soaking up the atmosphere in our iconic Spooner’s Beer Garden, the perfect weekend awaits!

The station itself will be open to all during the gala, with tickets only required for those wishing to travel on the trains.

Our thanks go to the Automobile Club of North Wales for joining us and helping to make this year’s ‘Extreme Steam Extravaganza’ even more memorable.

Rydym yn falch o groesawu Clwb Moduron Gogledd Cymru i’n Gala ‘Sioe Stêm Rhagorol’ eleni yng Ngorsaf Harbwr Porthmadog.

Rhwng 10:00 a 16:00 ar bob un o dri diwrnod y Gala (Dydd Gwener 19eg – Dydd Sul 21ain Mehefin 2026), bydd detholiad o 38 o gerbydau clasurol a hanesyddol i’w gweld ar adegau amrywiol yn ystod y digwyddiad y tu allan i faes parcio’r orsaf.

Bydd yr arddangosfa’n cynnwys cymysgedd eclectig o gerbydau sy’n rhychwantu dros 60 mlynedd o hanes moduro, o fodelau cain Rolls-Royce a Wolseley cyn y rhyfel hyd at geir teuluol ôl-rhyfel, clasuron chwaraeon a ffefrynnau mwy diweddar. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae Citroën Traction 1951, Triumph Stag, eiconau perfformiad Ford megis yr Escort XR3i a’r Mexico Mk1, MG BGT, Daimler XJ6, a hyd yn oed bws Bedford OB wedi’i gadw. Gyda’i gilydd, maent yn cynnig cipolwg hynod ddiddorol ar dreftadaeth moduro Prydain a thu hwnt.

Bydd yr arddangosfa ar gael nid yn unig i ddeiliaid tocynnau’r digwyddiad, ond hefyd i drigolion lleol, ymwelwyr ar wyliau ac unrhyw un sy’n galw heibio ac yn dymuno edrych yn agosach ar y cerbydau hynod ddiddorol hyn. P’un a ydych yn frwd dros reilffyrdd, yn hoff o geir clasurol neu’n chwilio am rywbeth diddorol i’w weld, mae croeso i bawb!

Ar ôl edrych ar yr arddangosfa, mae croeso i chi fynd ymlaen i’r platfform i edmygu’r amrywiaeth o drenau sy’n cymryd rhan yn y gala, tra’n mwynhau’r awyrgylch yn Ardd Gwrw eiconig Spooner’s – y penwythnos perffaith ar y gweill!

Bydd yr orsaf ei hun ar agor i bawb yn ystod y gala, gyda thocynnau ond yn ofynnol i’r rhai sy’n dymuno teithio ar y trenau.

Hoffem ddiolch i Glwb Moduron Gogledd Cymru am ymuno â ni a helpu i wneud ein ‘Sioe Stêm Rhagorol’ eleni yn fwy cofiadwy fyth.