What a wonderful celebration of railway heritage!

Our fantastic Victorian Weekend in October 2026 brought the sights, sounds and spirit of a bygone age to life, with vintage trains, thrilling gravity train demonstrations, classic cars, period costumes and entertainment for all ages.

From the bustle of a Victorian shopping village and classic cars at Harbour Station (accompanied by the sounds of our Victorian street organ grinder!) to the miniature railways, traction engines, steam rollers and heritage displays by the Ffestiniog Railway Heritage Group at Minffordd Station, there was something for everyone to enjoy.

Highlights also included a wonderful concert by the historic Oakeley Silver Band and fascinating tours of Tan y Bwlch Station, celebrating its rich heritage.

A huge thank you to all our visitors, staff, volunteers, exhibitors and traders who helped make the event so special!

MISSED OUT? SAVE THE DATE!

Join us between 18–20 June 2027 for another unforgettable Victorian Weekend!

Step back in time and experience our much-loved Victorian Weekend with a summer solstice twist! Expect steam trains, period costumes, traditional entertainment, vintage vehicles and plenty of Victorian charm… a classic favourite, with a little more sunshine!

Dress up in your Victorian finery, bring the family and step back in time with us!

Keep an eye on our website and social media for further announcements.

Am ddathliad gwych o dreftadaeth y rheilffyrdd!

Daeth ein Penwythnos Fictoraidd gwych ym mis Hydref 2026 â golygfeydd, synau ac ysbryd oes a fu yn fyw, gyda threnau hanesyddol, arddangosiadau gwefreiddiol o drenau disgyrchiant, ceir clasurol, gwisgoedd cyfnod ac adloniant i bob oed.

O fwrlwm pentref siopa Fictoraidd a’r ceir clasurol yng Ngorsaf yr Harbwr (yng nghwmni cerddoriaeth ein chwaraewr organ stryd Fictoraidd!) i’r rheilffyrdd bach, peiriannau tyniant, rholeri ager ac arddangosfeydd treftadaeth gan Grŵp Treftadaeth Rheilffordd Ffestiniog yng Ngorsaf Minffordd, roedd rhywbeth at ddant pawb.

Ymhlith yr uchafbwyntiau hefyd roedd cyngerdd gwych gan y Seindorf Arian Oakeley, sy’n enwog am ei threftadaeth, a theithiau diddorol o amgylch Gorsaf Tan y Bwlch, gan ddathlu ei threftadaeth gyfoethog.

Diolch o galon i’n holl ymwelwyr, staff, gwirfoddolwyr, arddangoswyr a masnachwyr a helpodd i wneud y digwyddiad mor arbennig!

WEDI COLLI ALLAN? CADWCH Y DYDDIAD!

Ymunwch â ni rhwng 18–20 Mehefin 2027 am Benwythnos Fictoraidd bythgofiadwy arall!

Camwch yn ôl mewn amser a phrofwch ein Penwythnos Fictoraidd poblogaidd gyda thro heuldro haf! Disgwyliwch drenau stêm, gwisgoedd cyfnod, adloniant traddodiadol, cerbydau hen ffasiwn a digonedd o swyn Fictoraidd… ffefryn clasurol, gydag ychydig mwy o heulwen!

Disgwyliwch ragor o drenau hanesyddol, treftadaeth reilffordd hynod ddiddorol ac awyrgylch arbennig wrth i ni ddathlu hanes rhyfeddol Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri.

Gwisgwch eich dillad Fictoraidd gorau, dewch â’r teulu a theithiwch yn ôl mewn amser gyda ni!

Cadwch lygad ar ein gwefan a’n cyfryngau cymdeithasol am ragor o gyhoeddiadau.