With the arrival of the summer holidays we’re adding a little extra entertainment at Harbour Station on Saturdays, Sundays and Bank Holiday Mondays from now until the end of August…
Mae gwyliau’r Haf wedi cyraedd ac rydym yn ychwanegu ychydig o adloniant ychwanegol yng Ngorsaf yr Harbwr ar Ddydd Sadwrn, Dydd Sul a Dydd Llun Gŵyl y Banc o nawr tan ddiwedd mis Awst…
Ar bob un o’r dyddiau hyn, bydd un o’n fflyd o injans bach yn brysur o amgylch iard yr orsaf yn darparu reidiau troed plati i’n hymwelwyr. Nid oes angen i chi archebu ymlaen llaw na chael tocyn i fynd ar un o’n trenau teithwyr. Mae reidiau troed plat ar gael i unrhyw un sy’n ymweld â Gorsaf yr Harbwr – i fynd ar drên, ymweld â’r siop, bwyta ac yfed yn Spooner’s neu ddim ond i gael reid ar locomotif stêm!
Bydd reidiau troed plati yn digwydd rhwng tua 10:00 – 16:00. Ewch i ben y platfform agosaf at y tŵr dŵr ac aroswch eich tro. Mae’r reidiau am ddim, er bod croeso bob amser i roi rhoddion tuag at gost glo ac ati.
Bydd locomotifau a ddefnyddir ar gyfer reidiau troed plat yn amrywio drwy gydol yr haf, gyda LILLA yn gyntaf i redeg y Dydd Sadwrn a’r dDdd Sul hwn. Peidiwch â cholli’r cyfle i reidio’r locomotif hanesyddol hwn a adeiladwyd ar gyfer Chwarel Cilgwyn yn Nyffryn Nantlle, dim ond ychydig filltiroedd o Borthmadog. Mae criw’r locomotif eisoes yn edrych ymlaen at eich croesawu!


