If you’ve been to see us recently you may have been greeted by Coleg Menai’s Travel and Tourism students who’ve been getting first-hand experience, working with our visitors who come from all across the world to travel on the Ffestiniog and Welsh Highland Railway.
17 year old Shay said: “I was nervous when I arrived but I am glad I came as I’ve really enjoyed it. Spending a day on the train with the stewards I felt my confidence build with every carriage I went in. I was explaining more to passengers about the Railway and the guidebooks we were selling. I have found that I enjoy talking to visitors and I was good at it.”
18 year old Steph said: “This week has really improved my social skills.” whilst 17 year old Efa said: “This is a great experience and not what I expected.”
We’ve welcomed 88 work experience students in the last year from schools and colleges across North Wales.
If you would like to get involved by Volunteering or perhaps would like to organise a Team Building visit, get in touch at volunteering@ffwhr.com
Os ydych chi wedi bod i’n gweld yn ddiweddar efallai eich bod wedi cael eich cyfarch gan fyfyrwyr Teithio a Thwristiaeth Coleg Menai sydd wedi bod yn cael profiad uniongyrchol, yn gweithio gyda’n hymwelwyr sy’n dod o bob rhan o’r byd i deithio ar Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri.
Dywedodd Shay, 17 oed: “Roeddwn i’n nerfus pan gyrhaeddais ond rwy’n falch fy mod wedi dod gan fy mod wedi mwynhau’n fawr. Wrth dreulio diwrnod ar y trên gyda’r stiwardiaid teimlais fy hyder yn cynyddu gyda phob cerbyd yr es i mewn. Roeddwn yn esbonio mwy i deithwyr am y Rheilffordd a’r arweinlyfrau yr oeddem yn eu gwerthu. Rwyf wedi darganfod fy mod yn mwynhau siarad ag ymwelwyr ac roeddwn yn dda ar wneud hynny.”
Dywedodd Steph, sy’n 18 oed: “Mae’r wythnos hon wedi gwella fy sgiliau cymdeithasol yn fawr.” tra dywedodd Efa, sy’n 17 oed: “Mae hwn yn brofiad gwych ac nid fel roeddwn i’n ei ddisgwyl.”
Rydym wedi croesawu 88 o fyfyrwyr profiad gwaith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf o ysgolion a cholegau ar draws Gogledd Cymru.
Os hoffech gymryd rhan drwy Wirfoddoli neu efallai yr hoffech drefnu ymweliad Meithrin Tîm, cysylltwch â ni volunteering@ffwhr.com