Are you looking for work in the Porthmadog or Caernarfon areas this summer?

The Ffestiniog and Welsh Highland Railways are two of the UK’s most popular heritage railways, located in the heart of picturesque Snowdonia. We are looking for a number of people to join our team for the summer months.

We can offer you:

  • £10.42 per hour for applicants aged 23 and over (National Living/Minimum Wage for age applies), £8.00 per hour for under 21s
  • Seasonal contract from mid June to mid September
  • Full time or part time / job share positions available
  • The pro rata equivalent of 29 days paid holiday, inclusive of all bank and public holidays
  • Travel benefits on the Ffestiniog and Welsh Highland Railways and staff discounts in shops and cafes.

We have vacancies for:

Booking Office Assistant – Porthmadog

Duties include taking bookings by telephone, processing bookings and answering enquiries face to face, by telephone and by email. Counter duties to include selling tickets will also be included therefore experience of cash handling and cashing up would be beneficial. Experience of working in a similar role would be an advantage but not essential as full training will be provided, however candidates must be familiar with working with computer systems and email.

Retail Assistant – Porthmadog

Duties include serving customers, handling money, answering passenger queries and assisting with processing web shop orders. Experience of working in a retail environment would be an advantage but not essential as full training will be provided.

Food & Beverage Assistant – Porthmadog

Duties include serving customers either at the café counter, at table, or at the bar; handling money, clearing tables and assisting with kitchen duties. Experience of working in a café or restaurant would be an advantage but not essential as full training will be provided.

On Train Steward – Porthmadog or Caernarfon

Duties include greeting passengers, providing information and telling factual stories about the railways, selling guidebooks, and assisting with the provision of basic refreshments and the hamper service. In addition on Welsh Highland Railway services stewards will be providing an at seat trolley refreshment service. Previous experience in a customer service role would be an advantage but not essential as full training will be provided.

Caernarfon Station Team Assistant – Caernarfon

Duties include serving customers in the café or shop, selling tickets and checking in customers, and assisting with delivering events at the station. Previous experience in a customer service role would be an advantage but not essential as full training will be provided.

The successful candidates will have an enthusiasm for working in the hospitality, catering or tourism industries and a willingness to learn, develop and contribute to the team. The ideal candidates will be flexible; able to adapt to any task and able to work shifts any day of the week.

Core Skills for all roles:

  • Enthusiasm for working in a customer facing role and interacting with the public
  • Team player
  • Good communication skills
  • The ability to work cleanly and tidily
  • The ability to speak Welsh would be an advantage as would knowledge of the railways and their passengers; and the local area.

    Applicants for these positions must have the existing right to work in the UK.

    To apply please go here.

    Ydych chi’n chwilio am waith yn ardaloedd Porthmadog neu Gaernarfon yr haf yma?   

    Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri yw dwy o reilffyrdd treftadaeth mwyaf poblogaidd y DU, wedi’u lleoli yng nghanol prydferthwch Eryri. Rydym yn chwilio am unigolion i ymuno â’n tîm ar gyfer misoedd yr haf.

    Gallwn gynnig i chi:

    • £10.42 yr awr ar gyfer ymgeiswyr 23 oed a throsodd (Cyflog Byw Cenedlaethol / Isafswm ar gyfer oedran yn berthnasol), £8.00 yr awr i rai o dan 21 oed
    • Cytundeb tymhorol o ganol mis Mehefin i ganol mis Medi
    • Swyddi amser llawn neu ran amser / rhannu swydd ar gael
    • Cyfwerth pro rata o 29 ddiwrnod o wyliau â thâl, gan gynnwys yr holl wyliau banc a chyhoeddus
    • Manteision teithio ar Reilffyrdd Ffestiniog ac Eryri a gostyngiadau staff mewn siopau a chaffis.

    Mae gennym swyddi gwag ar gael ar gyfer:

    Cynorthwyydd Swyddfa Archebu – Porthmadog

    Dyletswyddau’n cynnwys cymryd archebion dros y ffôn, prosesu archebion ac ateb ymholiadau wyneb yn wyneb, dros y ffôn a thrwy e-bost. Bydd dyletswyddau cownter i gynnwys gwerthu tocynnau hefyd yn cael eu cynnwys felly byddai profiad o drin arian parod a chyfnewid yn fuddiol. Byddai profiad o weithio mewn rôl debyg o fantais ond nid yn hanfodol gan y bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu, fodd bynnag rhaid i ymgeiswyr fod yn gyfarwydd â gweithio gyda systemau cyfrifiadurol ac e-bost.

    Cynorthwyydd Manwerthu – Porthmadog

    Dyletswyddau’n cynnwys gwasanaethu cwsmeriaid, trin arian, ateb ymholiadau teithwyr a chynorthwyo gyda phrosesu archebion siopau we. Byddai profiad o weithio mewn amgylchedd manwerthu o fantais ond nid yn hanfodol gan y bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu.

    Cynorthwyydd Bwyd a Diod – Porthmadog

    Dyletswyddau’n cynnwys gwasanaethu cwsmeriaid naill ai wrth gownter y caffi, wrth y bwrdd, neu wrth y bar; trin arian, clirio byrddau a chynorthwyo gyda dyletswyddau cegin. Byddai profiad o weithio mewn caffi neu fwyty o fantais ond nid yn hanfodol gan y bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu.

    Stiward ar y Trên – Porthmadog neu Caernarfon

    Dyletswyddau’n cynnwys cyfarch teithwyr, darparu gwybodaeth ac adrodd straeon ffeithiol am y rheilffyrdd, gwerthu arweinlyfrau, a chynorthwyo gyda darparu lluniaeth sylfaenol a’r gwasanaeth hamper. Yn ogystal ar wasanaethau Rheilffordd Eryri bydd stiwardiaid yn darparu gwasanaeth lluniaeth troli wrth seddi. Byddai profiad blaenorol mewn rôl gwasanaeth cwsmeriaid o fantais ond nid yn hanfodol gan y bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu.

    Cynorthwywyr Tîm Y Stesion – Caernarfon

    Dyletswyddau’n cynnwys gweini cwsmeriaid yn y caffi neu’r siop, gwerthu tocynnau a gwirio cwsmeriaid, a chynorthwyo gyda chyflwyno digwyddiadau yn yr orsaf. Byddai profiad blaenorol mewn rôl gwasanaeth cwsmeriaid o fantais ond nid yn hanfodol gan y bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu.

    Bydd gan yr ymgeiswyr llwyddiannus frwdfrydedd i weithio yn y diwydiannau lletygarwch, arlwyo neu dwristiaeth a pharodrwydd i ddysgu, datblygu a chyfrannu at y tîm. Bydd yr ymgeiswyr delfrydol yn hyblyg; yn gallu addasu i unrhyw dasg ac yn gallu gweithio sifftiau unrhyw ddiwrnod o’r wythnos.

    Sgiliau Craidd ar gyfer pob swydd:

    • Brwdfrydedd dros weithio mewn rôl sy’n wynebu cwsmeriaid a rhyngweithio â’r cyhoedd
    • Chwaraewr tim
    • Sgiliau Cyfathrebu Da
    • Yr gallu i weithio yn lân ac yn daclus
    • Byddai’r gallu i siarad Cymraeg o fantais fel y byddai gwybodaeth am y rheilffyrdd a’u teithwyr; a’r ardal leol.

    Rhaid bod gan ymgeiswyr am y swydd hon yr hawl bresennol i weithio yn y DU.

    I wneud cais ewch i www.festrail.co.uk/jobs.