We are very excited to announce that the Ffestiniog & Welsh Highland Railways will feature on the brand-new official MONOPOLY: Eryri / Snowdonia Edition – featuring the great and good of the much loved National Park!
The new edition was officially launched in a special event at Portmeirion Village on the morning of Tuesday, 21st of March, with Mr Monopoly himself present to take kick off proceedings!
Mr Monopoly then made his way down to Porthmadog Harbour Station where he posed for photos with our new build Double Fairlie; James Spooner.
Winning Moves UK – an official MONOPOLY maker – has produced the brand-new MONOPOLY: Eryri Edition board game, under license from Hasbro, a leading toy and game company. Winning Moves UK makes MONOPOLY editions for places all over the world, including high-profile popular tourist places, such as Palm Beach, Dubai and The Hamptons.
When news of the game was announced last year, the public was invited to suggest landmarks and organisations to be featured in the game. Landing on ‘Mayfair,’ the game’s top-ranking space, is Yr Wyddfa, the highest mountain in Wales and England, and a tourist magnet for North Wales, attracting millions of visitors each year.
At the other end of the board, ‘Old Kent Road’ – the game’s most affordable square – is Ty Hyll, on account of it being a very high-profile historic landmark according to Welsh legend (reputedly dating back to the 15th century). Its English meaning is: ‘The Ugly House.’
In between are leading Eryri landmarks and organisations including Portmeirion Village, Harlech Castle (featuring in a set of three different castles) and the world’s smallest house. In all, 30+ Eryri landmarks and organisations feature in the game.
“The response from the public to MONOPOLY: Eryri Edition has been overwhelming,” says Yasmin East, Custom Games Executive at Winning Moves UK. “A very big thank you to everyone who sent in nominations and congratulations to everyone featured in the game.”
In addition to the bespoke squares, all of the tokens are customised, replacing the traditional MONOPOLY counters with: a Carneddau pony, a campervan, a sleeping dragon, hiking boots, a castle tower, and a train car. The Chance and Community Chest cards are bespoke as well. One card says, ‘You have won second prize in a Sheepdog trialling contest,’ replacing the ‘beauty contest’ card from the classic MONOPOLY original. Whilst another penalises players, saying: ‘You’ve been caught wild camping in the National Park!’
The Ffestiniog & Welsh Highland Railways feature on the cover of the box, the montage in the middle of the board, whilst also having our own tile on the board itself and a mention in one of the ‘chance’ cards.
The official MONOPOLY: Eryri / Snowdonia Edition is NOW ON SALE at our retail shops and via our online shop, retailing at £34.99
Rydym yn gyffrous iawn i gyhoeddi y bydd Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri yn ymddangos ar y MONOPOLY swyddogol newydd sbon: Rhifyn Eryri – sy’n cynnwys detholiad o uchafbwyntiau y Parc Cenedlaethol poblogaidd hwn!
Lansiwyd y rhifyn newydd yn swyddogol mewn digwyddiad arbennig ym Mhentref Portmeirion ar fore dydd Mawrth, 21ain o Fawrth, gyda Mr Monopoly ei hun yn bresennol i lansio y gêm newydd!
Yna gwnaeth Mr Monopoly ei ffordd i lawr i Orsaf Harbwr Porthmadog lle bu’n cymryd lluniau gyda’n injan newydd Double Fairlie; James Spooner.
Mae Winning Moves UK – gwneuthurwr MONOPOLY swyddogol – wedi cynhyrchu’r gêm fwrdd newydd sbon MONOPOLY: Rhifyn Eryri, dan drwydded gan Hasbro, cwmni tegannau a gemau blaenllaw. Mae Winning Moves UK yn gwneud rhifynnau MONOPOLY ar gyfer lleoedd ledled y byd, gan gynnwys lleoedd poblogaidd i dwristiaid, fel Palm Beach, Dubai ac The Hamptons.
Pan gyhoeddwyd newyddion am y gêm y llynedd, gwahoddwyd y cyhoedd i awgrymu tirnodau a sefydliadau i’w cynnwys yn y gêm. Yn glanio ar ‘Mayfair’, prif ofod y gêm, mae’r Wyddfa, mynydd uchaf Cymru a Lloegr, ac yn fagnet twristiaid i Ogledd Cymru, gan ddenu miliynau o ymwelwyr bob blwyddyn.
Ar ben arall y bwrdd, ‘Old Kent Road’ – sgwâr mwyaf fforddiadwy’r gêm – yw Tŷ Hyll, oherwydd ei fod yn dirnod hanesyddol proffil uchel iawn yn ôl y chwedl Gymreig (yn ôl y sôn yn dyddio’n ôl i’r 15fed ganrif). Ei ystyr Saesneg yw: ‘The Ugly House.’
Yn y canol mae tirnodau blaenllaw Eryri a sefydliadau gan gynnwys Pentref Portmeirion, Castell Harlech (yn cynnwys set o dri chastell gwahanol) a thŷ lleiaf y byd. Mae dros 30 o dirnodau a sefydliadau Eryri yn rhan o’r gêm.
“Mae ymateb y cyhoedd i MONOPOLY: Rhifyn Eryri wedi bod yn aruthrol,” meddai Yasmin East, Swyddog Gweithredol Custom Games yn Winning Moves UK. “Diolch yn fawr iawn i bawb a anfonodd enwebiadau a llongyfarchiadau i bawb a gafodd sylw yn y gêm.”
Yn ogystal â’r sgwariau pwrpasol, mae’r holl docynnau wedi’u teilwra, gan ddisodli’r cownteri MONOPOLY traddodiadol â: merlen y Carneddau, fan gwersylla, draig gysgu, esgidiau cerdded, tŵr castell, a char trên. Mae’r cardiau Siawns a Chist Gymunedol yn rhai pwrpasol hefyd. Dywed un cerdyn, ‘Rydych chi wedi ennill yr ail wobr mewn cystadleuaeth treialu Cŵn Defaid,’ gan ddisodli’r cerdyn ‘gystadleuaeth harddwch’ o’r clasur MONOPOLY gwreiddiol. Tra bod un arall yn cosbi chwaraewyr, gan ddweud: ‘Rydych chi wedi cael eich dal tra’n gwersylla yn wyllt yn y Parc Cenedlaethol!’
Mae Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri i’w gweld ar glawr y bocs, y montage yng nghanol y bwrdd, tra hefyd â’n teilsen ein hun ar y bwrdd ac cerdyn ‘siawns’ ein hun.
Mae’r MONOPOLI swyddogol: Eryri / Snowdonia Edition NAWR AR WERTH yn ein siopau manwerthu a thrwy ein siop ar-lein, yn manwerthu am £34.99