Yn ddiweddar, cafodd ein Cynllun Datblygu’r Gymraeg ei gymeradwyo gan Comisiynydd y Gymraeg.

Roedd hyn yn gyflawniad hynod sylweddol i’r Rheilffordd, ac rydym yn benderfynol o barhau i wella a datblygu ein Cynnig Cymraeg ymhellach, drwy gydol y cwmni.

Byddwn yn adolygu ein Cynllun Datblygu’r Gymraeg yn ystod y flwyddyn, i sicrhau bod targedau yn cael eu cyflawni.

Isod rydym wedi rhestru ein Cynnig Cymraeg presennol:

•              Gallwch ymgeisio am swydd gyda ni yn Gymraeg

Ymfalchiwn yn y ffaith fod pob un o’n swyddi gwag parhaol a thymhorol yn cael eu hysbysebu’n ddwyieithog ar ein gwefan, gan gynnwys y disgrifiadau swydd a’r ffurflenni cais. Mae hyn yn arwyddocaol gan ei fod yn golygu y gall ymgeiswyr wneud cais llawn am unrhyw rôl, drwy gyfrwng y Gymraeg.

•              Gallwch adnabod pa aelodau o staff sy’n siarad Cymraeg, mae gyda nhw faner ebost sy’n nodi hynny

Rydym wedi ychwanegu llofnod e-bost dwyieithog a baner ‘Ysgrifennwch ataf yn Gymraeg neu Saesneg’ ar droedynnau e-bost mwyafrif helaeth ein haelodau staff sy’n siarad Cymraeg. Mae hyn yn ei gwneud yn glir i’n cwsmeriaid Cymraeg, pa aelodau o staff sy’n gallu cyfathrebu ac ateb eu hymholiadau yn Gymraeg.

•              Darllenwch ein bwydlenni yn Gymraeg yng Nghaernarfon

Rydym wedi gweithio’n galed i sicrhau bod gan ein arlwywyr yng Ngorsaf Caernarfon, Caffi De Winton, fwydlenni dwyieithog ar y byrddau ac byrddau arddangos bwydlenni dwyieithog uwchben cownter y caffi.

•              Mae ein holl dudalennau bio ar ein cyfrifon cymdeithasol yn ddwyieithog

Ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol (‘Facebook’, ‘Twitter’, ‘Instagram’ a ‘YouTube’) rydym wedi cyfieithu pob ‘bio’ sy’n golygu y gall ein dilynwyr ac ymwelwyr ddarllen trosolwg o ‘pwy ydym ni’ yn Gymraeg ac Saesneg. Mae argraffiadau cyntaf yn bwysig ac roeddem yn awyddus i pob ymwelwr a’n tudalennau cyfryngau cymdeithasol yn y dyfodol gael eu cyfarch gan ‘bio’ dwyieithog.

•              Annog sgiliau iaith Gymraeg

Rydym yn ymwybodol bod gennym gyfrifoldeb i annog defnydd o’r Gymraeg ymhlith ein staff a’n gwirfoddolwyr ac felly, ar y mwyafrif helaeth o’n swyddi gwag parhaol a thymhorol, rhestrir sgiliau Cymraeg fel sgil dymunol. Rydym hefyd yn annog ‘agwedd gadarnhaol tuag at y defnydd o’r Gymraeg’ ar ein hysbysebion Gwirfoddolwyr amrywiol.

JOHN PRIDEAUX
Cadeirydd
Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri