We’ve got two pieces of exciting news to share… firstly we recently received the news that our Welsh Offer had been approved by the Welsh Language Commissioner!

The Welsh Offer is the Commissioner’s official recognition and is given to organisations that have collaborated with the Commissioner’s officers to plan ambitious Welsh language provision.

Working alongside the Commissioner’s officers, we have formed a plan which highlights the areas of the railway where our Welsh language provision is strong and identify other areas where we must to improve.

This plan will be reviewed at various intervals during the year, so that we can ensure targets are met and we continue improving our Welsh language offer.

Our full plan can now be viewed on the website.

Osian Hughes, Ffestiniog Railway Marketing Lead, said,

“We are delighted to receive the approval of the Welsh Offer from the Commissioner’s office. This is an extremely significant achievement for the Railway, and we are determined to continue to improve and develop our Welsh Offer further. There is a strong Welsh culture in the area we work in and as an organization we value the language and culture of Wales. The Welsh Offer makes us more relevant and helps us display pride in the Welsh language.”

Efa Gruffudd Jones, Welsh Language Commissioner, said

“It’s nice to see that the Ffestiniog and Welsh Highland Railways are being ambitious with the Welsh language services they offer. We are very proud that they dedicate themselves to ensuring that the Welsh language is seen and used every day by the staff and with their customers.

The Welsh Offer is a great opportunity for organisations of all kinds to raise awareness of their Welsh language services. This will lead to an increase in the use of services, and enable more people to live in Welsh.’

This brings us on nicely to our second piece of exciting news… we will be appearing at this year’s Llŷn and Eifionydd National Eisteddfod of Wales!

This year, the National Eisteddfod of Wales will be taking place in Boduan, a small village approx. 4 miles from Pwllheli, between Saturday, 5th – Saturday, 12th of August.

The National Eisteddfod of Wales is a cultural festival, held through the medium of Welsh, which  provides a national stage for music, dance, the visual arts, original performances, family activities and all kinds of competitions, in a welcoming, fun and unique environment.

Traditionally, the Eisteddfod is held annually and the venue alternates between different locations in north and south Wales.

We will be taking our ‘Lilla’ engine and ‘Bug Boxes 1 & 12’ to display on our stand at this year’s festival, and during the week-long event we will be handing out promotional material to visitors, all of which will be available bilingually.

Lots to be positive about as we steam into the busy summer season!

More information about the Welsh Offer is available here: https://www.welshlanguagecommissioner.wales/businesses-and-charities/cynnig-cymraeg

    Mae gennym ni ddau ddarn o newyddion cyffrous i’w rhannu… yn gyntaf fe gawson ni’r newyddion yn ddiweddar bod ein Cynnig Cymraeg wedi cael ei gymeradwyo gan Gomisiynydd y Gymraeg!

    Cydnabyddiaeth swyddogol y Comisiynydd yw’r Cynnig Cymraeg a chaiff ei rhoi i sefydliadau sydd wedi cydweithio â swyddogion y Comisiynydd i gynllunio darpariaeth Gymraeg uchelgeisiol.

    Gan weithio ochr yn ochr â swyddogion y Comisiynydd, rydym wedi llunio cynllun sy’n amlygu’r meysydd ar y rheilffordd lle mae ein darpariaeth Gymraeg yn gryf ac yn nodi meysydd eraill lle mae’n rhaid i ni wella.

    Bydd y cynllun hwn yn cael ei adolygu ar wahanol adegau yn ystod y flwyddyn, er mwyn i ni allu sicrhau bod targedau’n cael eu cyrraedd a’n bod yn parhau i wella ein harlwy Cymraeg.

    Gellir gweld ein cynllun llawn nawr ar ein gwefan.

    Dywedodd Osian Hughes, Arweinydd Marchnata Rheilffordd Ffestiniog,

    “Rydym wrth ein bodd yn derbyn cymeradwyaeth y Cynnig Cymraeg gan swyddfa’r Comisiynydd. Mae hyn yn gyflawniad hynod sylweddol i’r Rheilffordd, ac rydym yn benderfynol o barhau i wella a datblygu ein Cynnig Cymraeg ymhellach. Mae diwylliant Cymraeg cryf yn yr ardal yr ydym yn gweithio ynddi ac fel sefydliad rydym yn gwerthfawrogi iaith a diwylliant Cymru. Mae’r Cynnig Cymraeg yn ein gwneud ni yn fwy perthnasol ac yn ein helpu i arddangos balchder yn y Gymraeg.”

    Dywedodd Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg,

    “Mae’n braf gweld bod Rheilffordd Ffestiniog ac Eryri yn bod yn uchelgeisiol gyda’r gwasanaethau Cymraeg y maent yn eu cynnig. Rydym yn falch iawn eu bod yn ymroi i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei gweld, a’i defnyddio bob dydd gan y staff a gyda’u cwsmeriaid. 

    Mae’r Cynnig Cymraeg yn gyfle gwych i fudiadau o bob math godi ymwybyddiaeth o’u gwasanaethau Cymraeg. Bydd hyn yn arwain at gynnydd yn y defnydd o wasanaethau, ac yn galluogi mwy o bobl i fyw yn Gymraeg.’

    Daw hyn â ni ymlaen yn braf at ein hail ddarn o newyddion cyffrous… byddwn yn ymddangos yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llŷn ac Eifionydd!

    Eleni, mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal ym Moduan, pentref bach o gwmpas. 4 milltir o Bwllheli, rhwng Ddydd Sadwrn, 5ed – Dydd Sadwrn, Awst 12fed.

    Mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn ŵyl ddiwylliannol, a gynhelir drwy gyfrwng y Gymraeg, sy’n darparu llwyfan cenedlaethol ar gyfer cerddoriaeth, dawns, y celfyddydau gweledol, perfformiadau gwreiddiol, gweithgareddau teuluol a phob math o gystadlaethau, mewn awyrgylch croesawgar, hwyliog ac unigryw.

    Yn draddodiadol, cynhelir yr Eisteddfod yn flynyddol ac mae’r lleoliad yn cael ei gynnal am yn ail rhwng gwahanol leoliadau yng ngogledd a de Cymru.

    Eleni, byddwn yn mynd â’n injan ‘Lilla’ a cerbydau ‘Bug Boxes 1 a 12′ i’w harddangos ar ein stondin yn yr ŵyl eleni, ac yn ystod y digwyddiad wythnos o hyd byddwn yn dosbarthu deunydd hyrwyddo i ymwelwyr, a bydd pob un ohonynt ar gael yn ddwyieithog.

    Felly, lot i fod yn bositif am wrth i ni stemio fewn i dymor prysur yr haf!

    Mae mwy o wybodaeth am y Cynnig Cymraeg ar gael yma: https://www.welshlanguagecommissioner.wales/businesses-and-charities/cynnig-cymraeg