Congratulations to the wonderful group of young people from Coleg Glynllifon who have recently been awarded Certificates in recognition of their work experience on the Ffestiniog & Welsh Highland Railways.
Between the group, they have completed an outstanding 800 hours of work experience from last November to May this year.
The Railways’ work placement officer, Erfyl Williams said: “It is our second year working with Coleg Glynllifon. It has been great to see the group’s confidence growing each week.
“They have been able to develop their social skills and team building as well as learning some practical line side and track work skills.
“All of these things helps prepare them for the world of work.”
If you would like to get involved in Volunteering visit our Volunteers page here.
Heddiw, rydym yn dathlu carreg filltir arall yn hanes hir ein rheilffordd… 70 mlynedd ers meddiannu Rheilffordd Ffestiniog gan bartneriaeth o Alan Pegler yn Gadeirydd, Bwrdd Cwmni newydd a gwirfoddolwyr Cymdeithas Rheilffordd Ffestiniog.
Ar y 24ain o Fehefin 1954, gwnaeth hen fwrdd Rheilffordd Ffestiniog le i Alan Pegler a’i gymdeithion. Dechreuodd Cymdeithas RhFf ysgogi ei haelodau arloesol, a oedd wedi bod yn aros yn eiddgar am y digwyddiad hanesyddol hwn, ac maent wedi gweithio mewn partneriaeth agos â’r cwmni ers hynny.
Yn ddiweddarach y flwyddyn honno, gwnaeth criw o bobl ifanc eu ffordd drwy’r mieri i gyfeiriad yr hen sied injans yn Boston Lodge, gan agor y drysau a chychwyn ar antur i adfer Rheilffordd Ffestiniog.
Mae’r gweddill, fel maen nhw’n dweud, yn hanes ..!
I nodi’r achlysur arbennig hwn, rydym wedi ffilmio fideo coffaol i ddangos beth mae Rheilffordd Ffestiniog yn ei olygu i’n gwirfoddolwyr, aelodau a staff.
Yn ogystal, dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn rhannu cyfres o fideos pellach lle bydd teulu’r rheilffordd yn rhannu eu straeon ac yn dweud wrthym beth mae’r rheilffordd yn ei olygu iddyn nhw.
Rydym yn parhau i fod yn ddiolchgar i aelodau cynnar y gymdeithas a’r gwirfoddolwyr hynny a agorodd y drysau i’r hen sied injans yn Boston Lodge ac a gychwynnodd ar yr her aruthrol o adfer Rheilffordd Ffestiniog.
Mae’r rheilffordd yr ydym i gyd yn ei hadnabod ac yn ei charu yn bodoli heddiw diolch i’w hymdrechion rhagorol.
Mae’n addas felly y bod Boston Lodge yn agor ei ddrysau i’r cyhoedd ym mis Gorffennaf eleni wrth i ni lansio ein Teithiau Tywys Boston Lodge newydd, a wnaed yn bosibl fel rhan o brosiect Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Mae rhagor o wybodaeth am y teithiau hyn ar gael yma.